Gwirfoddoli
Galwad am Wirfoddolwyr i’r Ŵyl
Hoffech chi chwarae rhan yn Diffusion? Rydym yn edrych am bobl frwdfrydig sy’n fodlon rhoi o’u hamser a’u gwybodaeth arbenigol i helpu i gynllunio a darparu’r ŵyl.
Gallai gwirfoddoli gynnig profiad gwerthfawr i chi mewn meysydd fel:
· bod yn dywysydd byw i’r ŵyl
· gosod arddangosfeydd a’u tynnu i lawr
· gweinyddiaeth a marchnata
· dogfennu (tynnu ffotograffau, ffilmio a golygu)
· stiwardio digwyddiadau
Bydd Diffusion yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth ac mae gennym gyfleoedd a fydd yn gweddu i amrywiaeth eang o ymgeiswyr o bob cefndir. Does dim gofynion penodol ar gyfer gwirfoddoli ac eithrio diddordeb angerddol mewn ffotograffiaeth gyfoes ac awydd i wirfoddoli.
Swnio’n ddiddorol? Os gwelwch yn dda neu e-bostiwch [email protected] am fwy o wybodaeth.