Map & Hygyrchedd
Mae'r map google yma'n dangos holl ganolfannau Gŵyl Diffusion ledled y ddinas. Er bod mwyafrif yr arddangosfeydd yn rhedeg rhwng y 1af a'r 31ain o Hydref, mae dyddiau ac amseroedd agor yn amrywio. Rydym wedi gwneud ein gorau i sicrhau bod ein holl wybodaeth yn gywir a chyfredol ond rydym hefyd yn argymell eich bod yn ymweld â gwefannau'r canolfannau unigol er mwyn cadarnhau'r wybodaeth ddiweddaraf.
Hygyrchedd
Am ragor o wybodaeth am hygyrchedd y canolfannau neu os oes angen unrhyw fath o gymorth arnoch, ffoniwch ni ar 02920 341667. Mae testunau print bras ar gael gennym hefyd. Mae croeso i gŵn tywys ymhob un o ganolfannau Diffusion.