I Called her Lisa-Marie
Does gan fytholeg ddim ffiniau. Mae chwedloniaeth Elvis yn esgyn a lledu ymhell y tu hwnt i bling a kitsch Graceland, Memphis, Tennessee. Mae'n fyw ac yn fywiog yr ochr draw i'r Atlantic hefyd, yn nhref glan-y-môr Porthcawl. Yno bob mis Medi, cynhelir gŵyl i anrhydeddi'r Brenin. Yn y bôn, yn Tennessee neu ym Mhorthcawl, yr un bobl yw'r ffans Elvis hyn: Maent yn arwyr undydd, yn ddrych-ddelweddau boldew o'r Brenin - y genau dwbl a'r cwiffs du seimllyd - yn swagro â charisma dros dro yn eu gwisgoedd dros dro. Yma hefyd mae cyplau cyffredin yn trawsffurfio'n Elvis a Priscilla: Crysau glas petrol a sgertiau tonnog, a breuddwydion melys am enwogrwydd, gogoniant ac anfarwoldeb gorfoleddus. Does dim modd dweud ar ba ochr i'r Iwerydd y tynnodd yr artist Clémentine Schneidermann y ffotograffau hyn. Mae'r delweddau'n bodoli rhywle rhwng ffuglen a dogfen ac yn codi ymyl y llen ar swyngyfaredd 'Planed Elvis'. Ar yr olwg gyntaf mae'r wynebau'n drist ac yn drwm ag olion profiad bywydau caled, ond mae yma hefyd greadigrwydd yn disgleirio a phobl yn dychmygu a gweld eu hunain mewn dyfodol pefriog ymhell tu hwnt i drafferthion ac ymdrechion eu bywydau bob dydd.
10am - 10.30pm Llun - Sul
Times
Wales Millennium Centre
Bute Place
Cardiff Bay
CF10 5AL
