Looking for America Symposium
Looking for America
Symposiwm Diffusion
Mae’r amgyffred tramor o’r ddelfryd Americanaidd wedi datblygu’n rhyw fath o rym chwedlonol sy’n cario pob math o ddyheadau ac ofnau dwfn. Denwyd miliynnau yno o bedwar ban byd gan yr addewid o gynnydd personol a gwell yfory, a bu hynny’n gyfrwng i gyflymi ei thwf economaidd, technolegol a dinesig gan esgor ar ddiwylliant nwyddau traul newydd. Bu dylanwad diwylliannol America ledled y byd yn aruthrol; mae dylanwad ei diwydiant marchnata - cerddoriaeth, bwyd, chwaraeon, ffilm, teledu Americanaidd a’r ffordd Americanaidd - wedi tryledu i’r corneli mwyaf anghysbell.
Ond yn y byd sydd ohoni, wedi digwyddiadau 9/11 ac yn sgil dirwasgiad economaidd cyfredinol mae gwirionedd chwerw wedi disodli’r Freuddwyd Americanaidd a chwalu’r gred gadarn bod gwaith caled a chydymffurfio yn sicrhau gwell bywyd, cynnydd a ffyniant materol. Mae’r elyniaeth i ymyraeth wleidyddol a milwrol yr Unol Daleithiau ar draws y byd a’r cyfuniad gwenwynig o gamymddygiad corfforaethol, tangyflawniad addysgol, rhaniadau ac anghyfiawnderau cymdeithasol - law yn llaw â’r chwalfa economaidd - wedi difrodi delwedd genedlaethol America a’i hunan-hyder, efallai am byth.
Mae'r aristiaid sy'n arddangos yma, Todd Hido, Will Steacy, Jeff Brouws, Stacy Kranitz, Julian Germain a Hillerbrand+Magsamen yn trafod y problemau sy'n ysgogi eu gwaith, a statws ac ystyr y Freuddwyd Americanaidd yn y byd sydd ohoni.
12pm - 6pm Maw, Mer, Sad, Sul
12pm - 8pm Iau, Gwe
Llun: ar gau
Times
Chapter
Market Road
Cardiff
CF5 1QE
Looking for America Symposium
30 Hydref
