Jeff Brouws

Mae Jeff Brouws (g. 1955, San Francisco) yn artist hunanddysgedig. Yn ffotograffydd ers ei 13 oed, pan fu'n crwydro'r rheilffyrdd a choridorau diwydiannol y South Bay Peninsula, crëodd Brouws arolwg gweledol o dirweddau diwylliannol gwledig, trefol a maestrefol esblygol America. Wedi'i ddylanwadu gan y Mudiad Topograffig Newydd, llyfrau'r artist Ed Ruscha (y talodd Brouws deyrnged iddo â'i brosiect 'Twenty-six Abandoned Gasoline Stations', 1992) yn ogystal â thestunau gan ddaearyddwyr diwylliannol fel JB Jackson, Dolores Hayden a John Stilgoe, mae Brouws yn cyfuno ymholiad anthropolegol ag esthetig tywyll, ac yn canolbwyntio ar y pethau hynny a esgeuluswyd, pethau anghofiedig a phethau gyda'r mwyaf cyffredin.

Mae Brouws yn awdur saith o lyfrau, gan gynnwys ei waith mwyaf diweddar, Approaching Nowhere, a gyhoeddwyd gan WW Norton yn 2006. Mae ei ffotograffau i'w gweld mewn casgliadau preifat a chyhoeddus o bwys, gan gynnwys Amgueddfa Gelfyddyd Whitney, Amgueddfa Gelfyddyd San Francisco, Amgueddfa Fogg, Harvard, Amgueddfa Gelfyddyd Prifysgol Princeton ac Amgueddfa Gelfyddyd Henry.

11am - 5pm Maw - Sad

Times

Turner House

Plymouth Rd

Penarth

CF64 3DH

And Now It's Dark Activity Pack

And Now its Dark

Will Steacy, Todd Hido, Jeff Brouws
Ffotogallery

11am - 5pm Maw - Sad

01 - 31 Hydref