George Barber

Dangoswyd gweithiau Barber mewn nifer o wyliau, cystadlaethau ac orielau rhyngwladol ac fe'u darlledwyd ar sianeli teledu ledled y byd gan ennill iddo wobrau o bwys. Yn ddiweddar, dangosodd waith yn Kate MacGarry, Oriel Whitechapel, Gŵyl Ffilm Split (Croatia), yr Academi Frenhinol, Tate Britain ac Amgueddfa Victoria ac Albert. Cynhaliwyd dau arolwg o bwys o'i waith, yn yr ICA ac yng Nghanolfan Celfyddydau Cyfoes Dundee. Yn ystod hydref 2015, bydd yn cyflwyno arddangosfeydd unigol yn Waterside Contemporary, Llundain a Young Projects, Los Angeles.

Mae Barber yn Athro Celfyddyd a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol y Celfyddydau Creadigol ac fe'i cynrychiolir gan Waterside Contemporary (waterside-contemporary.com).

12pm - 6pm Maw, Mer, Sad, Sul

12pm - 8pm Iau, Gwe

Llun: ar gau

Times

Chapter

Market Road

Cardiff

CF5 1QE

Akula Dream