David Magnusson

Mae David Magnusson (g. 1983) yn byw ac yn gweithio yn Stockholm, Sweden. Astudiodd yn Ysgol Ffotograffiaeth Nordig Biskops-Arno gyda Anna Clarén, Anders Petersen a Thomas Wågström yn fentoriaid iddo. Yn ogystal â'i brosiectau, mae e'n gweithio fel ffotograffydd llawrydd ar ran cleientiaid fel Save the Children, TIME Magazine a Svenska Dagbladet. Derbyniodd David wobrau ac anrhydeddau gan Bwyllgor y Celfyddydau Sweden, Cronfa Awduron Sweden, Gwobr Llun y Flwyddyn - Rhyngwladol, Gwobr Llun y Flwyddyn - Sweden ac fe ddewiswyd ei waith yn rhan o Ddosbarth Meistr 'World Press Photo'. Cyhoeddwyd ei fonograff cyntaf, Purity, gan Max Ström ym mis Mawrth 2014 yn ystod arddangosfa yn Fotografiska, Amgueddfa Ffotograffiaeth Sweden. Derbyniodd Purity nifer o wobrau ac fe ymddangosodd ei luniau mewn nifer o gyhoeddiadau rhyngwladol, fel TIME, The Guardian, Los Angeles Times, Huffington Post, Der Spiegel, Stern, La Repubblica, BBC a The Daily Mail. Caiff David Magnusson ei gynrychioli gan Oriel Pictura yn yr Unol Daleithiau.

11am - 5pm Maw - Sad


Times

Stadium Plaza

Wood Street

Cardiff
CF10 1LA

Purity