Dave Jordano

Derbyniodd Dave Jordano (g. 1948, Detroit, Michigan) radd BFA mewn ffotograffiaeth o Goleg Astudiaethau Creadigol yn 1974 ac aeth yn ei flaen wedi hynny i sefydlu stiwdio ffotograffiaeth fasnachol lwyddiannus yn Chicago. Yn ystod ei yrfa fel ffotograffydd celfyddyd gain, mae Jordano wedi arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae ei waith yn rhan o nifer o gasgliadau preifat, corfforaethol a sefydliadol, gan gynnwys casgliadau Amgueddfa Ffotograffiaeth Gyfoes, Chicago, IL, Amgueddfa Celfyddydau Cain Boston, Amgueddfa Celfyddydau Cain Houston, Sefydliad y Celfyddydau, Detroit, Amgueddfa Hanesyddol Detroit, Amgueddfa Gelf Mary & Leigh Block ym Mhrifysgol Northwestern, Evanston, IL, Casgliad Banc Harris a Banc y Warchodfa Ffederal. Mae ei brosiect presennol, sy'n dwyn y teitl, "Detroit: Unbroken Down" yn dogfennu rhai o'r newidiadau diwylliannol a chymdeithasol i'w dref enedigol ac fe gyhoeddir rhai o'r lluniau gan Powerhouse Books yn ystod Hydref 2015. Mae Jordano yn byw yn Chicago, Illinois.

Third Floor Gallery
www.thirdfloorgallery.com

12pm - 6pm Mer - Sul


Times

Third Floor Gallery

102 Bute Street

Cardiff Bay

CF10 5AD

Unbroken Down Detroit